Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 16 Mawrth 2022
Amser y cyfarfod: 13.30
------
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
(30 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
3 Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd
(30 munud)
4 Cwestiynau Amserol
(0 munud)
Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol
5 Datganiadau 90 eiliad
(5 munud)
6 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Janet Finch-Saunders (Aberconwy) - Cynllunio morol yng Nghymru
(30 munud)
NDM7896 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar gynllunio morol yng Nghymru.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) gwneud darpariaethau ar gyfer polisïau a fyddai'n helpu i lywio lleoliad datblygiadau i ffwrdd o'r ardaloedd mwyaf sensitif o safbwynt ecolegol, lleihau'r effeithiau cronnol ar gynefinoedd a rhywogaethau sy'n agored i niwed, a rhoi mwy o sicrwydd i ddatblygwyr;
b) creu dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i hwyluso'r gwaith o greu cynllun datblygu morol cenedlaethol, a'i adolygu o leiaf unwaith ym mhob Senedd;
c) sefydlu meysydd adnoddau strategol ar gyfer ynni morol;
d) cyhoeddi strategaeth ar gyfer gwrthdroi dirywiad adar môr;
e) ei gwneud yn ofynnol i ffermydd gwynt ar y môr gynnwys adfer cynefinoedd gwely'r môr; strategaeth ar gyfer cynaeafu bwyd môr cynaliadwy o fewn ardal y fferm wynt a mesurau gwella amgylcheddol.
7 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Y Lluoedd Arfog
(60 munud)
NDM7955 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod gwasanaeth ac aberth pobl o Gymru yn lluoedd arfog y DU.
2. Yn mynegi diolch i bersonél presennol a chyn-aelodau'r lluoedd arfog am eu cyfraniad i gymdeithas yng Nghymru.
3. Yn croesawu penodiad Cyrnol James Phillips fel Comisiynydd Cyn-filwyr cyntaf Cymru;
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Comisiynydd Cyn-filwyr a Llywodraeth y DU i sicrhau bod cyfamod y lluoedd arfog yn cael ei gynnal yng Nghymru.
5. Yn credu y dylai adroddiadau blynyddol cyfamod lluoedd arfog Llywodraeth Cymru gael eu hystyried gan un o bwyllgorau priodol y Senedd.
8 Dadl Plaid Cymru - Yr argyfwng costau byw - yr effaith ar ysgolion a phlant
(60 munud)
NDM7954 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod yr argyfwng costau byw yn cael effaith benodol ar ysgolion a phlant.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu'r ymdrechion i sicrhau bod mesurau i gefnogi plant o gefndiroedd difreintiedig mewn ysgolion yn cael eu gweithredu mor effeithiol â phosibl drwy:
a) adolygu effeithiolrwydd canllawiau statudol ar bolisïau gwisg ysgol er mwyn sicrhau fforddiadwyedd cyson ledled Cymru;
b) cymryd camau brys i sicrhau nad yw dyled prydau ysgol yn cael effaith negyddol ar ddisgyblion;
c) gwella sut y cyfeirir at y grant datblygu disgyblion – mynediad;
d) gweithio tuag at gofrestru pobl ar gyfer yr holl bethau y gallant hawlio amdanynt yn awtomatig i gynyddu'r nifer sy'n manteisio arnynt a sicrhau eu bod yn gwneud y gorau o incwm;
e) darparu cymorth pellach i ysgolion i ddarparu teithiau a gweithgareddau cynhwysol i bawb a sicrhau arferion cyson ledled Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliant canlynol:
Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ôl is-bwynt 2(a) ac ailrifo yn unol â hynny:
'sicrhau nad yw symud i brydau ysgol am ddim cyffredinol yn cael effaith negyddol ar unrhyw blant yng Nghymru a fyddai wedi cael cyllid neu gymorth ychwanegol'
9 Cyfnod pleidleisio
10 Dadl Fer
(30 munud)
NDM7947 Gareth Davies (Dyffryn Clwyd)
Adfer ein trefi glan môr i'w hen ogoniant: tasg angenrheidiol neu amhosibl?
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 22 Mawrth 2022